Hygyrch Sinema

Mae’r Sinema wedi’i lleoli ar lefel 1 yr adeilad, y gellir cael mynediad iddo drwy’r grisiau neu’r lifft a leolir yn y brif fynedfa. Mae’r seddi yn y sinema mewn ffurfwedd grisiog, gyda safle cadair olwyn ar gael ar y rhes blaen. Mae’r balcony ar lefel 2 y gellir cael mynediad iddo drwy’r grisiau.

Cinema access

Dangosiadau Hamddenol 

Mae dangosiadau ffilm hamddenol yn Neuadd Dwyfor wedi'u cynllunio i fod yn fwy cyfeillgar i bobl ag anhwylderau gwybyddol a synhwyraidd, cyflyrau sbectrwm awtistiaeth, neu ddementia. Rydym yn croesawu pawb i’r dangosiadau yma.


Mewn dangosiadau hamddenol, rydych yn rydd i symud o gwmpas, a dod mewn ac allan o’r sinema pan fynnwch. Bydd agwedd fwy hamddenol tuag at sŵn a siarad yn ystod y ddangosiad. Rydym yn cadw’r goleuadau ymlaen yn isel, ac addasu cyfaint y ffilm fel nad yw rhy uchel.

Is-deitlau Capsiwn

Mae capsiynau yn wasanaeth ar gyfer pobl â nam ar eu clyw neu yn fyddar.
Rydym yn darparu dangosiadau is-deitlau o ffilmiau pan fo modd. Mae gan y dangosiadau yma drawsgrifiad o ddeialog a sain y ffilm ar waelod y sgrin.


Sylwch fod yn rhaid i isdeitlo capsiwn gael ei gynhyrchu gan y cwmni dosbarthu ffilmiau ac yn anffodus, nid oes gan bob ffilm y nodwedd hon.