Llygoden yr Eira (Theatr Genedlaethol Cymru / Theatr Iolo)

Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo yn cyflwyno

LLYGODEN YR EIRA

Yn seiliedig ar gynhyrchiad gwreiddiol Snow Mouse gan
the egg a Travelling Light Theatre Company

Mae’r gaeaf wedi cyrraedd ac eira yn garped ar lawr y goedwig. Gan wisgo’n gynnes, rhuthra blentyn allan i chwarae yn y byd newydd disglair.

Ond beth sy’n cuddio’n dawel dan yr eira? Llygoden fach yn cysgu’n sownd. Yn llithro, rolio a chwerthin, mae’r ddau ffrind newydd yn ymgolli yn y byd rhyfeddol hwn gyda’i gilydd.

Dewch i gadw’n gynnes yn yr eira mawr ac ymuno â ni ar antur yn y goedwig hudol. Dyma stori aeafol swynol i blant bach, llawn cerddoriaeth, pypedwaith a chwarae.

Gyda chefnogaeth Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe.

Dyddiadau Sioe