Yn sgil y sefyllfa COVID-19 a datganiad diweddaraf y Prif Weinidog Boris Johnson nos Lun, mae digwyddiadau yn Neuadd Dwyfor wedi cael eu canslo neu ohirio am y tro.
Rydym yn ymwybodol bod hyn yn siomedig iawn i’n defnyddwyr, ond gwyddom eich bod yn ymwybodol o’r sefyllfa a’r peryglon sy’n ymwneud ac ymgynnull mewn mannau cyhoeddus.
Mi fydd y tîm Swyddfa Docynnau yn cysylltu gydag unigolion sydd wedi archebu tocynnau ar gyfer digwyddiadau.
Rydym yn gobeithio ad-dalu cwsmeriaid yn y dyddiau nesaf.
Diolch am eich cydweithrediad ac amynedd. Mi fydd Llyfrgell Pwllheli yn aros ar agor ar hyn o bryd gyda threfniadau’n cael eu hadolygu’n ddyddiol.
Os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer cynnal eich:
Mae Neuadd Dwyfor yn cynnig yr Neuadd a’r Ystafell Cyfarfod i’w llogi am bris rhesymol sydd yn cynnwys adnoddau, staff profesiynol a lleoliad canolog yn dref Pwllheli.
Am fwy o fanylion cysylltwch y Swyddfa Docynnau ar 01758 704 088 neu ebostiwch NeuaddDwyfor@gwynedd.llyw.cymru